Saturday, 12fed Awst 2023

Sioe Amaethyddol Llanilar

Cynhelir Sioe Llanilar ar yr ail ddydd Sadwrn o fis Awst bob blwyddyn ac mae’n denu ceisiadau ar gyfer maes, cynnyrch, celf a chrefft o bob cwr o’r sir. Er mai digwyddiad amaethyddol a garddwriaethol yw’r Sioe yn bennaf, mae yna ddigwyddiadau eraill sy’n boblogaidd iawn gyda’r cyhoedd, megis y sioe gwn yn ogystal â’r gystadleuaeth neidio clwydi ceffylau.

Neges y Llywydd

Croeso i Sioe Llanilar 2023!

Yn dilyn dwy flynedd o absenoldeb oherwydd y Covid, roedd hi’n wych gweld Sioe Llanilar yn ôl ar ei thraed y llynedd. Roedd hi’n amhosib llogi pabell fawr am bris call yn 2022, ac fe weithiodd aelodau pwyllgor y Sioe yn galed iawn i ddod o hyd i ffordd amgen o ganiatáu i’r Sioe fynd yn ei blaen.

Eleni rydyn ni’n ôl i normal (gobeithio!) gyda pabell ar y maes. Yn 2019 roedd y tywydd yn stormus a’r llynedd roedd hi’n ddifrifol o boeth, felly ein tro ni y flwyddyn yma am dywydd perffaith! Cofiwch arbed y dyddiad, dewch â’ch teulu draw a dweud wrth eich ffrindiau. Gwnaeth y Sioe argraff fawr ar rai ymwelwyr y llynedd; doedden nhw erioed wedi bod i ddim byd tebyg! Nid anifeiliaid y fferm yn unig oedd yn gyfrifol am hynny ond hefyd y cystadleuwyr yn y pebyll a wnaeth argraff fawr arnyn nhw, yn enwedig y plant.

Gwnewch yn siwr eich bod yn cystadlu yn ogystal â’ch plant; oherwydd rwy’n siwr fod yna gogyddes gyfrinachol, garddwr, crefftwr, gwiniwr neu ffotograffydd ym mhob un ohonom. Rydw i’n ymarfer fy mhobi yn barod, ac mae’r adborth yn dda!

Rwy’n siwr y caiff pawb ddiwrnod difyr iawn.

Patrick Loxdale

Neges y Cadeiryddes

Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i groesawu chi eleni eto i Sioe Llanilar ar gaeau ‘Castle Hill’. Dyma fydd fy sioe olaf fel cadeirydd y pwyllgor a mawr ydy fy niolch i swyddogion ac aelodau gweithgar y pwyllgor, sydd yn rhoi gymaint o’i amser, ac ymdrech yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau diwrnod llwyddiannus.

Eleni, William a Wendy Lloyd, Y Facwn fydd gwestai anrhydeddus y sioe, – mae’r ddau wedi bod yn gefnogol iawn i’r sioe (ac i minnau yn fy swydd fel cadeiryddes) ers blynyddoedd lawer. Bu Wendy yn ysgrifenyddes (gyda Ada Rhosgoch) a William yn gadeirydd am sawl blwyddyn, ac mae nhw yn parhau i fod yn gasglwyr brwd yn ardal Llangwyryfon.

Mi fuodd sioe 2022 yn un crasboeth, un a fydd yn sefyll yn y cof am rhai blynyddoedd, ac mae sgil effaith sychder yr ha’ i’w deimlo hyd heddiw wrth i mi roi ambell frawddeg ynghyd – ganol mis Mawrth, wrth i borthiant y gaeaf ddod i ben yn gynt na’r arfer. Mae’r diwydiant amaethyddol yn parhau i wynebu amryw o heriau ond mae digwyddiadau fel sioeau lleol yn gyfle da i ddod at ein gilydd ac i ymfalchïo yn ein cynnyrch a dathlu ein ffordd o fyw.
Rydym wrthi yn ceisio datblygu gwefan newydd ar gyfer y sioe yn y gobaith y bydd hyn yn hwyluso ac yn moderneiddio sawl elfen o’r gwaith trefnu a gweinyddol. Diolch yn fawr i Rosemary Tudor ar criw bu yn ei chynorthwyo gyda’r datblygiadau yma – mae hyn yn gyfnod cyffrous yn hanes y sioe.

Diolch i’r casglwyr, stiwardiaid a’r beirniaid am eich parodrwydd i gefnogi’r sioe.

Dymunaf ddiwrnod llewyrchus i chi gyd- a diolch am gefnogi unwaith yn rhagor.

Ann Lloyd

Lleoliad

Cyrraedd y Sioe

Mae pentref Llanilar wedi ei leoli 6.5 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth, sydd tua 15 munud mewn car o Aberystwyth. Lleolir y Sioe ar gaeau Castle Hill yng nghanol y pentref, drws nesaf i dafarn y Falcon, lle mae digon o le i barcio ar faes y Sioe i ymwelwyr. Drwy gydol y dydd fydd yna faniau arlwyo yn darparu bwyd a hufen iâ ar y maes. Rydym yn croesawu pob ymwelwyr ac yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

Diweddariadau

Newyddion Diweddar

Neges y Cadeiryddes

Neges y Cadeiryddes

Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i groesawu chi eleni eto i Sioe Llanilar ar gaeau ‘Castle Hill’....

read more