Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i groesawu chi eleni eto i Sioe Llanilar ar gaeau ‘Castle Hill’. Dyma fydd fy sioe olaf fel cadeirydd y pwyllgor a mawr ydy fy niolch i swyddogion ac aelodau gweithgar y pwyllgor, sydd yn rhoi gymaint o’i amser, ac ymdrech yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau diwrnod llwyddiannus.

Eleni, William a Wendy Lloyd, Y Facwn fydd gwestai anrhydeddus y sioe, – mae’r ddau wedi bod yn gefnogol iawn i’r sioe (ac i minnau yn fy swydd fel cadeiryddes) ers blynyddoedd lawer. Bu Wendy yn ysgrifenyddes (gyda Ada Rhosgoch) a William yn gadeirydd am sawl blwyddyn, ac mae nhw yn parhau i fod yn gasglwyr brwd yn ardal Llangwyryfon.

Mi fuodd sioe 2022 yn un crasboeth, un a fydd yn sefyll yn y cof am rhai blynyddoedd, ac mae sgil effaith sychder yr ha’ i’w deimlo hyd heddiw wrth i mi roi ambell frawddeg ynghyd – ganol mis Mawrth, wrth i borthiant y gaeaf ddod i ben yn gynt na’r arfer. Mae’r diwydiant amaethyddol yn parhau i wynebu amryw o heriau ond mae digwyddiadau fel sioeau lleol yn gyfle da i ddod at ein gilydd ac i ymfalchïo yn ein cynnyrch a dathlu ein ffordd o fyw.

Rydym wrthi yn ceisio datblygu gwefan newydd ar gyfer y sioe yn y gobaith y bydd hyn yn hwyluso ac yn moderneiddio sawl elfen o’r gwaith trefnu a gweinyddol. Diolch yn fawr i Rosemary Tudor ar criw bu yn ei chynorthwyo gyda’r datblygiadau yma – mae hyn yn gyfnod cyffrous yn hanes y sioe.

Diolch i’r casglwyr, stiwardiaid a’r beirniaid am eich parodrwydd i gefnogi’r sioe.

Dymunaf ddiwrnod llewyrchus i chi gyd- a diolch am gefnogi unwaith yn rhagor.

Ann Lloyd